Go to content

  • Dŵr

  • Mae SWALEC yn cyflenwi dŵr i rannau o’r DU. Rydym yn un o gyflenwyr ynni mwyaf y wlad a’n nod yn syml yw i gyflenwi dŵr gyda’r un safon uchel o wasanaeth y mae’n cwsmeriaid bob amser yn ei mwynhau.

    Ein hardaloedd cyflenwi

    Penodir cwmnïau cyflenwi dŵr gan y rheoleiddiwr dŵr i gyflenwi dŵr mewn ardaloedd penodol. Os ydych yn ddigon lwcus i fyw o fewn ein hardal, bydd eich gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth yn cael eu cyflenwi gennym ni.

    Ein hardal cyflenwi yw:

    PDF icon PDF file: Llanilid Park, Pontyclun (416KB) 

    Os ydych yn byw y tu allan i’r ardal hon, ni fyddwn yn gallu cyflenwi dŵr i chi.

    Tu ôl i’r prif gyflenwad

    Yn ystod y cyfnod ‘rydym wedi bod yn cyflenwi nwy a thrydan, rydym wedi datblygu i fod yn eitha da yn ein gwaith. Sut ydym yn gwybod hyn? Wel, fel rhan o’r SSE Group, enwyd SWALEC fel y “Cyflenwr Ynni Gorau Cyffredinol” yn adroddiadau bodlonrwydd uswitch am y seithfed tro yn ddilynol*. Mae’n debyg mai dyma pam fod gennym dros 10 miliwn o gwsmeriaid.

    Darganfyddwch fwy

    Am ragor o wybodaeth, gweler yr adran Gwybodaeth Reoleiddio sy’n cynnwys manylion costau, codau ymarfer a dogfennau eraill sy’n disgrifio ein cyfrifoldebau i chi.

    Cynllun Iaith Gymraeg

    Mewn partneriaieth â Bwrdd yr Iaith Gymraeg rydym wedi datblygu Cynllun Iaith Gymraeg, sy’n amlinellu sut y byddwn yn darparu ein gwasanaethau dŵr i’n cwsmeriaid dŵr sy’n siarad Cymraeg.

    Gallech lawrlwytho copi o’r Cynllun yn y Gymraeg neu yn Saesneg yma: 

    PDF icon PDF file: Welsh Language Scheme in Welsh (162KB)
    PDF icon PDF file: Welsh Language Scheme in English (93KB) 

    Bydd y mwyafrif o gyfrifiaduron yn agor ffeiliau PDF yn awtomatig. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn digwydd efallai bydd angen lawrlwytho Adobe Reader. I wneud hyn, gweler wefan Adobe.

    Beth i wneud os ydych yn anfodlon

    Weithiau mae problemau’n codi. Os oes rhywbeth yn digwydd, gadewch i ni wybod fel ei fod yn bosib i ni weithio gyda chi i ddatrys y mater. Ceir gwybodaeth ar sut i gwyno yn ein Cod Ymarfer i Gwsmeriaid sydd ar gael yn yr adran Gwybodaeth Reoleiddio.

     


    *Mae SWALEC yn rhan o’r SSE Group, a bleidleiswyd fel y Cyflenwr Ynni Gorau Cyffredinol yn Adroddiadau Bodlonrwydd Cwsmeriaid uSwitch 2006 (dau adroddiad), 2007 (dau adroddiad), 2008, 2009 a 2010.

     

  • Emergencies*

    If you have any water supply problems or other emergencies please call us on:

    0800 316 2190

    Open 24 hours a day, everyday.

  • Get in touch

    Rh Contact us

    If you'd like to contact us you can send us an email or give us a call

    Contact us now